Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. 3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. 5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. 6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. 8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn, a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr. 27 Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr. 28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd. 29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant. 30 Er hynny ti a’u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd. 31 Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.
20 A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu. 21 Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi. 22 Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd. 23 Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24 A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.