Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. 3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. 5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. 6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. 8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
6 Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a’u holl luoedd hwynt, y ddaear a’r hyn oll sydd arni, y moroedd a’r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti. 7 Ti yw yr Arglwydd Dduw, yr hwn a ddetholaist Abram, ac a’i dygaist ef allan o Ur y Caldeaid, ac a roddaist iddo enw Abraham: 8 A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i’w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, a’r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt. 9 Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch: 10 A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i’r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn. 11 Y môr hefyd a holltaist o’u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a’u herlidwyr a fwriaist i’r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion: 12 Ac a’u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi. 13 Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o’r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus: 14 A’th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was: 15 Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.
5 Eithr am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. 2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. 3 Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. 4 Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. 5 Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. 6 Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. 7 Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. 8 Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. 9 Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10 Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11 Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.