Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.
76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. 2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. 3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. 4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. 5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. 6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. 7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? 8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, 9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
29 Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll. 3 Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun. 4 Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau. 5 A mi a’th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesglir, ac ni’th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth. 6 A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel. 7 Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll.
8 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail. 9 A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a’i gwneuthum. 10 Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia. 11 Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd. 12 A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.
15 A’r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16 A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18 A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear. 19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.