Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 76

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.

76 Hynod yw Duw yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel. Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion. Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela. Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail. Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu. Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter? O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear, Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela. 10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi. 11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy. 12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.

Daniel 7:19-27

19 Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a’i ddannedd o haearn, a’i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â’i draed: 20 Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a’r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o’i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a’r olwg arno oedd yn arwach na’i gyfeillion. 21 Edrychais, a’r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt; 22 Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o’r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth. 23 Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a’i sathr hi, ac a’i dryllia. 24 A’r deg corn o’r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin. 25 Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser. 26 Yna yr eistedd y farn, a’i lywodraeth a ddygant, i’w difetha ac i’w distrywio hyd y diwedd. 27 A’r frenhiniaeth a’r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.

Datguddiad 11:1-14

11 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. 10 A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. 11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. 12 A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. 13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. 14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.