Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? 2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? 3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: 4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. 5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.
8 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf. 2 Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai. 3 Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf. 4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr. 5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid. 6 Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth. 7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef. 8 Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd. 9 Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad. 10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r sêr, ac a’u sathrodd hwynt. 11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef. 12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa? 14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.
26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.