Revised Common Lectionary (Complementary)
12 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr. 2 A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol. 3 A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd.
Michtam Dafydd.
16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. 2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: 3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. 4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. 5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. 6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. 7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. 8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. 9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.
11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12 Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13 O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14 Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.
15 Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16 Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17 A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.
19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu.
13 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o’r deml, un o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma. 2 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di’r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a’r nis datodir. 3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â’r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o’r neilltu, 4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn oll ar ddibennu? 5 A’r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi: 6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw’r diwedd eto. 8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.