Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 16

Michtam Dafydd.

16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

Daniel 4:19-27

19 Yna Daniel, yr hwn ydoedd ei enw Beltesassar, a synnodd dros un awr, a’i feddyliau a’i dychrynasant ef. Atebodd y brenin, a dywedodd, Beltesassar, na ddychryned y breuddwyd di, na’i ddehongliad. Atebodd Beltesassar, a dywedodd, Fy arglwydd, deued y breuddwyd i’th gaseion, a’i ddehongliad i’th elynion. 20 Y pren a welaist, yr hwn a dyfasai, ac a gryfhasai, ac a gyraeddasai ei uchder hyd y nefoedd, ac oedd i’w weled ar hyd yr holl ddaear; 21 A’i ddail yn deg, a’i ffrwyth yn aml, ac ymborth i bob peth ynddo; tan yr hwn y trigai bwystfilod y maes, ac y preswyliai adar y nefoedd yn ei ganghennau: 22 Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear. 23 A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef: 24 Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin. 25 Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y’th borthant fel eidionau, ac a’th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i’r neb a fynno. 26 A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu. 27 Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a’th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.

Colosiaid 2:6-15

Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.