Revised Common Lectionary (Complementary)
94 O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria. 2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion. 3 Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu? 4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd? 5 Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant. 6 Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant. 7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn. 8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch? 9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? 10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn? 11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt. 12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith: 13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol. 14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth. 15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl. 16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd? 17 Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd. 18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd. 19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid. 20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith? 21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog. 22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded. 23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.
14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu. 15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a’i gosododd arni: a hi a aeth i’r ddinas. 16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi. 17 A hi a ddywedodd, Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi: canys dywedodd wrthyf, Nid ei yn waglaw at dy chwegr. 18 Yna y dywedodd hithau, Aros fy merch, oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn: canys ni orffwys y gŵr, nes gorffen y peth hyn heddiw.
4 Yna Boas a aeth i fyny i’r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd. 2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant. 3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab. 4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i’w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a’i rhyddhaf. 5 Yna y dywedodd Boas, Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi, ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes, gwraig y marw, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef.
6 A’r cyfathrachwr a ddywedodd, Ni allaf ei ryddhau i mi, rhag colli fy etifeddiaeth fy hun: rhyddha di i ti dy hun fy rhan i; canys ni allaf fi ei ryddhau.
9 Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr, 10 Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da. 11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant; 12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf. 13 A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys. 14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi. 15 Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan. 16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.