Revised Common Lectionary (Complementary)
ALEFF
119 Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd. 2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. 3 Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. 4 Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. 5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! 6 Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. 7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. 8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.BETH
22 Os lladrata un ych neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.
2 Os ceir lleidr yn torri tŷ, a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano. 3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad. 4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.
5 Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun.
6 Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.
7 Os rhydd un i’w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl: 8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog. 9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymydog yn ddwbl. 10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled: 11 Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn. 12 Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog. 13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.
14 Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled. 15 Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.
9 Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chysegr bydol. 2 Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur; y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara gosod; yr hwn dabernacl a elwid, Y cysegr. 3 Ac yn ôl yr ail len, yr oedd y babell, yr hon a elwid, Y cysegr sancteiddiolaf; 4 Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon a flagurasai, a llechau’r cyfamod: 5 Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan. 6 A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw: 7 Ac i’r ail, unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig; nid heb waed, yr hwn a offrymai efe drosto’i hun, a thros anwybodaeth y bobl. 8 A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn, nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto, tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll: 9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd; 10 Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad. 11 Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma; 12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.