Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
24 Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd, 25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd, 26 Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion: 27 Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi? 28 Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 29 A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.
30 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 31 Anfon at yr holl gaethglud, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd: 32 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad, ac â’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yr Arglwydd; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.
22 Ac efe a ddaeth i Fethsaida; a hwy a ddygasant ato un dall, ac a ddeisyfasant arno ar iddo gyffwrdd ag ef, 23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a’i tywysodd ef allan o’r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim. 24 Ac wedi edrych i fyny, efe a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio. 25 Wedi hynny y gosododd efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fyny: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur. 26 Ac efe a’i hanfonodd ef adref, i’w dŷ, gan ddywedyd, Na ddos i’r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.