Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
12 Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’m hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch. 13 Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn. 14 Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn. 15 Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a’m lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.
16 Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym. 17 Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd, 18 Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed. 19 A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Arglwydd, ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau. 20 Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd, Ureia mab Semaia, o Ciriath‐jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia. 21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft. 22 A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i’r Aifft: 23 A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft, ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin. 24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i’w ladd.
11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron? 12 Canys wedi newidio’r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd. 13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor. 14 Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth. 15 Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi, 16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol. 17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 18 Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles. 19 Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw. 20 Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad: 21 (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:) 22 Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.