Revised Common Lectionary (Complementary)
23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef. 24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law. 25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara. 26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. 27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. 28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. 29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. 30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. 31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. 32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. 33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. 34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. 35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. 36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. 37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. 38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. 39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod. 40 A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
17 A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa; 18 Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi. 19 A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. 20 A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu: a daliwyd llwyth Benjamin. 21 Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef. 22 Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn. 23 A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl. 24 A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin. 25 Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ.
13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, 14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15 Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.