Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 37:23-40

23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef. 24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law. 25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara. 26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. 27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. 28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. 29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. 30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. 31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. 32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. 33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. 34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. 35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. 36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. 37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. 38 Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. 39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod. 40 A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

1 Samuel 8:1-18

Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel. Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba. A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn. Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama, Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd.

A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti. Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

10 A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo. 11 Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: 12 Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. 13 A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. 14 Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i’w weision. 15 Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. 16 Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. 17 Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. 18 A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

Hebreaid 6:1-12

Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol. A hyn a wnawn, os caniatâ Duw. Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân, Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar. Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi. Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn. 10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a’r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. 11 Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd: 12 Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.