Revised Common Lectionary (Complementary)
4 Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a’i gystuddio. 5 Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. 6 Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. 7 Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. 8 O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl. 9 Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau.
10 Eithr yr Arglwydd a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef. 11 O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. 12 Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.
9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
5 Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3 Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. 5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; 8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo; 10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
35 A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. 36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? 37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. 38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? 39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: 40 Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. 41 A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. 42 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt. 43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; 44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. 45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.