Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ddoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi. 11 Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti. 12 Saf yn awr gyda’th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus. 13 Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat. 14 Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a’u llysg hwynt; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam: ni bydd marworyn i ymdwymo, na thân i eistedd ar ei gyfer. 15 Felly y byddant hwy i ti gyda’r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei duedd; nid oes un yn dy achub di.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. 29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.