Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
47 Disgyn, ac eistedd yn y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus. 2 Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd. 3 Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf. 4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel. 5 Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.
6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
7 A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi. 8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd. 9 Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
17 A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthyf, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer; 2 Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi. 3 Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd: ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cabledd, a saith ben iddo, a deg corn. 4 A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerthfawr, a pherlau, a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra. 5 Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR. 6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr. 7 A’r angel a ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. 8 Y bwystfil a welaist, a fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a myned i ddistryw: a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, pan welont y bwystfil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod. 9 Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae’r wraig yn eistedd arnynt. 10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig. 11 A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw’r wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddistryw y mae’n myned. 12 A’r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto; eithr awdurdod fel brenhinoedd, un awr, y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil. 13 Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn, a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil. 14 Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen, a’r Oen a’u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a’r rhai sydd gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon. 15 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd a welaist, lle mae’r butain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd ac ieithoedd. 16 A’r deg corn a welaist ar y bwystfil, y rhai hyn a gasânt y butain, ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth, a’i chnawd hi a fwytânt hwy, ac a’i llosgant hi â thân. 17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. 18 A’r wraig a welaist, yw’r ddinas fawr, sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.