Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Amos 5:6-7

Ceisiwch yr Arglwydd, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel. Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr,

Amos 5:10-15

10 Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. 11 Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt. 12 Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth. 13 Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw. 14 Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr Arglwydd, Duw y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch. 15 Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd Arglwydd Dduw y lluoedd yn raslon i weddill Joseff.

Salmau 90:12-17

12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

Hebreaid 4:12-16

12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. 13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn. 14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. 15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. 16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.

Marc 10:17-31

17 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? 18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. 19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. 20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. 21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. 22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! 24 A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! 25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.

28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, 30 A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. 31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.