Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 90:12-17

12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

Amos 3:13-4:5

13 Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd, 14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. 15 A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.

Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn. Tyngodd yr Arglwydd Dduw i’w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a’ch hiliogaeth â bachau pysgota. A chwi a ewch allan i’r adwyau, bob un ar ei chyfer; a chwi a’u teflwch hwynt i’r palas, medd yr Arglwydd.

Deuwch i Bethel, a throseddwch; i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a’ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau; Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

Mathew 15:1-9

15 Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.