Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 2:18-24

18 Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo. 19 A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef. 20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo. 21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi. 22 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn. 23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y cymerwyd hi. 24 Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

Salmau 8

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.

Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Hebreaid 1:1-4

Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.

Hebreaid 2:5-12

Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru. Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dyn, i ti i feddwl amdano? neu fab dyn, i ti i ymweled ag ef? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef, ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo: Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo. Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo. Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu, yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn. 10 Canys gweddus oedd iddo ef, oherwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy yr hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau. 11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a’r rhai a sancteiddir, o’r un y maent oll. Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr; 12 Gan ddywedyd, Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di.

Marc 10:2-16

A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. 10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. 12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.

13 A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. 14 A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. 16 Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.