Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 8

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.

Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Genesis 23

23 Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara. A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.

Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd, Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi: rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg. A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho, Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw. Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth; Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi. 10 Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd, 11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw. 12 Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir. 13 Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno. 14 Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho, 15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw. 16 Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.

17 Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch, 18 Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef. 19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan. 20 A sicrhawyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.

Luc 16:14-18

14 A’r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw. 16 Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi. 17 A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o’r gyfraith ballu. 18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.