Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 8

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.

Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Genesis 21:22-34

22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur. 23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi. 24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf. 25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais. 26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw. 27 Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau. 28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain. 29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain? 30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn. 31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau. 32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

33 Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol. 34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Rhufeiniaid 8:1-11

Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10 Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11 Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.