Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.
5 Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. 2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. 3 Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. 4 Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. 5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. 6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. 7 A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. 8 Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. 9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
10 Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a’r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes. 2 Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a’r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail. 3 Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd â’i braidd tŷ Jwda, ac a’u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel. 4 Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5 A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch. 6 A nerthaf dŷ Jwda, a gwaredaf dŷ Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i’w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, ac a’u gwrandawaf hwynt. 7 Bydd Effraim hefyd fel cawr, a’u calonnau a lawenychant fel trwy win: a’u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr Arglwydd. 8 Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhânt fel yr amlhasant. 9 A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y’m cofiant, a byddant fyw gyda’u plant, a dychwelant. 10 A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt. 11 Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith. 12 Nerthaf hwynt hefyd yn yr Arglwydd, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr Arglwydd.
6 A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
7 Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr! 8 Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragwyddol. 9 Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.