Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 5

I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.

Sechareia 6:9-15

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 10 Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia: 11 Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad; 12 A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN: o’i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr Arglwydd: 13 Ie, teml yr Arglwydd a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau. 14 A’r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr Arglwydd. 15 A’r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr Arglwydd, a chewch wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr Arglwydd Dduw.

1 Pedr 1:3-9

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi. Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth, parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf. Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bod ychydig yr awron, os rhaid yw, mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau: Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist: Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.