Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 19:7-14

Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.

Deuteronomium 1:1-18

Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab. (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐Barnea.) A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt; Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei; O’r tu yma i’r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro’r gyfraith hon, gan ddywedyd. Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn: Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates. Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hôl hwynt.

A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi: 10 Yr Arglwydd eich Duw a’ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd. 11 ( Arglwydd Dduw eich tadau a’ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a’ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!) 12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a’ch baich, a’ch ymryson chwi? 13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi. 14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist. 15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a’u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi. 16 A’r amser hwnnw y gorchmynnais i’ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a’i frawd, ac a’r dieithr sydd gydag ef. 17 Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a’i gwrandawaf. 18 Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

Actau 12:20-25

20 Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21 Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22 A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23 Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24 A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.