Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:1-18

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi. I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd? Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr: 10 Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw. 11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch. 12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti. 13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

2 Brenhinoedd 11:21-12:16

21 Mab saith mlwydd oedd Joas pan aeth efe yn frenin.

12 Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr Arglwydd, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr Arglwydd; Cymered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo. Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ. Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid eraill, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny, na dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ. A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ. Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr Arglwydd: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr Arglwydd. 10 A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd. 11 A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, goruchwylwyr tŷ yr Arglwydd: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr Arglwydd. 12 Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr Arglwydd, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ. 13 Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd. 14 Eithr hwy a’i rhoddasant i weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant â hwynt dŷ yr Arglwydd. 15 Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. 16 Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr Arglwydd: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy.

Iago 5:1-6

Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.