Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Error: Book name not found: Wis for the version: Beibl William Morgan
Jeremeia 11:18-20

18 A’r Arglwydd a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy. 19 A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy. 20 Eithr, O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

Salmau 54

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?

54 Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela. Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw. Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

Iago 3:13-4:3

13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.

O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.

Iago 4:7-8

Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg.

Marc 9:30-37

30 Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. 31 Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd. 32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.

33 Ac efe a ddaeth i Gapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddech yn ymddadlau yn eich plith eich hunain ar y ffordd? 34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â’i gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf. 35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb. 36 Ac efe a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt, 37 Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw fechgyn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.