Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
54 Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. 2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. 3 Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela. 4 Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. 5 Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. 6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw. 7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.
6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. 7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr, 8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel. 9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. 10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas: 11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r Arglwydd. 12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt, Na wnewch y peth hyn. 13 Er i’r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. 14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw. 15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt. 16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. 17 A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.
29 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn; 30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi. 31 Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. 33 O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?
34 Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor. 36 Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. 37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.