Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
54 Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. 2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. 3 Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela. 4 Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. 5 Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. 6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw. 7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
24 Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi? 25 A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio. 26 A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin; 27 A dywed, Fel hyn y dywed y brenin; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch. 28 A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl. 29 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead. 30 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. 31 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 32 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. 33 A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 34 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin; canys fe a’m clwyfwyd i. 35 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. 36 Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i’w ddinas, a phob un i’w wlad ei hun.
37 Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria. 38 A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe. 39 A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeiladodd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 40 Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 Canys nid ewyllysiwn, frodyr, eich bod heb wybod y dirgelwch hwn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun,) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn. 26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, Y Gwaredwr a ddaw allan o Seion, ac a dry ymaith annuwioldeb oddi wrth Jacob. 27 A hyn yw’r amod sydd iddynt gennyf fi, pan gymerwyf ymaith eu pechodau hwynt. 28 Felly o ran yr efengyl, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. 29 Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw. 30 Canys megis y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd trwy anufudd‐dod y rhai hyn; 31 Felly hwythau hefyd yr awron a anufuddhasant, fel y caent hwythau drugaredd trwy eich trugaredd chwi. 32 Canys Duw a’u caeodd hwynt oll mewn anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.