Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 54

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?

54 Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid. Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau. Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen. Sela. Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid. Efe a dâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd. Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw. Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

Barnwyr 6:1-10

A Meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd. A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a’r ogofeydd, a’r amddiffynfaoedd. A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy: Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn. Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid, ac â’u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi. Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.

A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid, Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed; Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi: 10 A dywedais wrthych, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.

1 Corinthiaid 2:1-5

A myfi, pan ddeuthum atoch, frodyr, a ddeuthum nid yn ôl godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Duw. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio. A mi a fûm yn eich mysg mewn gwendid, ac ofn, a dychryn mawr. A’m hymadrodd a’m pregeth i, ni bu mewn geiriau denu o ddoethineb ddynol, ond yn eglurhad yr Ysbryd a nerth: Fel na byddai eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.