Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:169-176

169 Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. 170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. 171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. 172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. 173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. 174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. 175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. 176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

1 Brenhinoedd 13:11-25

11 Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a’i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i’w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin. 12 A’u tad a ddywedodd wrthynt, Pa ffordd yr aeth efe? A’i feibion a welsent y ffordd yr aethai gŵr Duw, yr hwn a ddaethai o Jwda. 13 Ac efe a ddywedodd wrth ei feibion, Cyfrwywch i mi yr asyn. A hwy a gyfrwyasant iddo yr asyn; ac efe a farchogodd arno. 14 Ac efe a aeth ar ôl gŵr Duw, ac a’i cafodd ef yn eistedd dan dderwen; ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw gŵr Duw, yr hwn a ddaethost o Jwda? Ac efe a ddywedodd, Ie, myfi. 15 Yna efe a ddywedodd wrtho, Tyred adref gyda mi, a bwyta fara. 16 Yntau a ddywedodd, Ni allaf ddychwelyd gyda thi, na dyfod gyda thi; ac ni fwytâf fara, ac nid yfaf ddwfr gyda thi yn y fan hon. 17 Canys dywedwyd wrthyf trwy ymadrodd yr Arglwydd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr yno; ac na ddychwel gan fyned trwy y ffordd y daethost ar hyd‐ddi. 18 Dywedodd yntau wrtho, Proffwyd hefyd ydwyf fi fel tithau; ac angel a lefarodd wrthyf trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dychwel ef gyda thi i’th dŷ, fel y bwytao fara, ac yr yfo ddwfr. Ond efe a ddywedodd gelwydd wrtho. 19 Felly efe a ddychwelodd gydag ef, ac a fwytaodd fara yn ei dŷ ef, ac a yfodd ddwfr.

20 A phan oeddynt hwy yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr Arglwydd at y proffwyd a barasai iddo ddychwelyd: 21 Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr Arglwydd, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, 22 Eithr dychwelaist, a bwyteaist fara, ac yfaist ddwfr, yn y lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt ti, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; nid â dy gelain di i feddrod dy dadau.

23 Ac wedi iddo fwyta bara, ac wedi iddo yfed, efe a gyfrwyodd iddo yr asyn, sef i’r proffwyd a barasai efe iddo ddychwelyd. 24 Ac wedi iddo fyned ymaith, llew a’i cyfarfu ef ar y ffordd, ac a’i lladdodd ef: a bu ei gelain ef wedi ei bwrw ar y ffordd, a’r asyn oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, a’r llew yn sefyll wrth y gelain. 25 Ac wele wŷr yn myned heibio, ac a ganfuant y gelain wedi ei thaflu ar y ffordd, a’r llew yn sefyll wrth y gelain: a hwy a ddaethant ac a adroddasant hynny yn y ddinas yr oedd yr hen broffwyd yn aros ynddi.

Colosiaid 3:1-11

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.