Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:169-176

169 Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. 170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. 171 Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. 172 Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. 173 Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. 174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. 175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. 176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

1 Brenhinoedd 13:1-10

13 Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda, trwy air yr Arglwydd, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu. Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a’i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti. Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd; Wele, yr allor a rwygir, a’r lludw sydd arni a dywelltir. A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato. Yr allor hefyd a rwygodd, a’r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd. A’r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt. A’r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti. A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon: Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost. 10 Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.

Rhufeiniaid 3:9-20

Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod; 10 Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: 11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw. 12 Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un. 13 Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau: 14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd: 15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed: 16 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd: 17 A ffordd tangnefedd nid adnabuant: 18 Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid. 19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw. 20 Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.