Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 116:1-9

116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef. Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid. Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni. Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd. Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt. Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro. Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.

Josua 2:1-14

A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno. A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad. A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant. Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy. A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt. Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ. A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.

A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn. 10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi. 11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod. 12 Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir: 13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau. 14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.

Hebreaid 11:17-22

17 Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai’r addewidion: 18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had: 19 Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth. 20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent. 21 Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon. 22 Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.