Revised Common Lectionary (Complementary)
10 Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd. 11 Dywedais, Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd. 12 Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; â nychdod y’m tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf. 13 Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf. 14 Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O Arglwydd, gorthrymwyd fi; esmwythâ arnaf. 15 Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a’i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid. 16 Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi. 17 Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn. 18 Canys y bedd ni’th fawl di, angau ni’th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd. 19 Y byw, y byw, efe a’th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd. 20 Yr Arglwydd sydd i’m cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr Arglwydd.
8 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad. 2 A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
3 Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos: 4 Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod. 5 Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt, 6 (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt. 7 Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi. 8 A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.
9 Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl. 10 A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai. 11 A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. 12 Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas. 13 A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14 A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas. 15 A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch. 16 A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas. 17 Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel. 18 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas. 19 A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân. 20 A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid. 21 A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai. 22 A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt. 23 A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. 4 Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. 5 A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: 6 Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. 7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? 8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. 9 Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.