Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
33 Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y’th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti. 2 Arglwydd, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd. 3 Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd. 4 A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt. 5 Dyrchafwyd yr Arglwydd; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. 6 A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd yw ei drysor ef. 7 Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw. 8 Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion. 9 Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel.
21 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. 24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25 Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.
29 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.