Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
27 Wele enw yr Arglwydd yn dyfod o bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a’i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a’i dafod sydd megis tân ysol. 28 Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio’r cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn. 29 Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr Arglwydd, at Gadarn yr Israel. 30 A’r Arglwydd a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg. 31 Canys â llais yr Arglwydd y distrywir Assur, yr hwn a drawai â’r wialen. 32 A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog, yr hon a esyd yr Arglwydd arno ef, gyda thympanau a thelynau y bydd: ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn. 33 Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i’r brenin: efe a’i dyfnhaodd hi, ac a’i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr Arglwydd, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.
2 Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3 Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4 Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7 Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8 Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9 Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.