Revised Common Lectionary (Complementary)
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef. 14 Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch. 15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid. 16 Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd. 17 Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram. 18 Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol. 19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. 20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. 21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; 22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. 23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
47 Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant. 48 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.
21 A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth. 22 Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno. 23 Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 24 Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.
25 Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef; 26 Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir. 27 A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt: 28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant. 29 Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 30 Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef: 31 (Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt. 32 Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef: 33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw? 34 A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid? 35 Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe. 36 O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef. 37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft: 38 I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw. 39 Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall. 40 Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, bydded farw’r farwolaeth. 11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban, hynny yw, Rhodd, trwy ba beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi; difai fydd. 12 Ac nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim i’w dad neu i’w fam; 13 Gan ddirymu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau â hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
14 A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn. 16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 17 A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddameg. 18 Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef? 19 Oblegid nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu’r holl fwydydd? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o ddyn, hynny sydd yn halogi dyn. 21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 22 Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.