Revised Common Lectionary (Complementary)
106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. 2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? 3 Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. 4 Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. 5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. 6 Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef. 14 Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch. 15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid. 16 Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd. 17 Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram. 18 Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol. 19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. 20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. 21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; 22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. 23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
47 Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant. 48 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.
9 Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion: 10 Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion. 11 A nesasoch, a safasoch dan y mynydd a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew. 12 A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais. 13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
14 A’r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu.
6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. 7 Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. 8 Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. 9 Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. 10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11 Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12 Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14 Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. 16 Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.