Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 4:1-2

Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi. Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.

Deuteronomium 4:6-9

Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon. Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno? A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi? Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion:

Salmau 15

Salm Dafydd.

15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.

Iago 1:17-27

17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. 18 O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. 19 O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: 20 Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. 21 Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. 22 A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. 23 Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych: 24 Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. 25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred. 26 Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. 27 Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.

Marc 7:1-8

Yna yr ymgasglodd ato y Phariseaid, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethai o Jerwsalem. A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylo cyffredin (hynny ydyw, heb olchi,) yn bwyta bwyd, hwy a argyhoeddasant. Canys y Phariseaid, a’r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwytânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwytânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymerasant i’w cadw; megis golchi cwpanau, ac ystenau, ac efyddynnau, a byrddau. Yna y gofynnodd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi? Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, ragrithwyr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthyf. Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn lle dysgeidiaeth, orchmynion dynion. Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwpanau: a llawer eraill o’r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.

Marc 7:14-15

14 A chwedi galw ato yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch. 15 Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sydd yn dyfod allan ohono, y rhai hynny yw’r pethau sydd yn halogi dyn.

Marc 7:21-23

21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwg feddyliau, torpriodasau, puteindra, llofruddiaeth, 22 Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd: 23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.