Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:97-104

97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

NUN

Eseia 33:10-16

10 Cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach. 11 Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi. 12 A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân.

13 Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth. 14 Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? 15 Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni; 16 Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.

Ioan 15:16-25

16 Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17 Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu ohonoch eich gilydd. 18 Os yw’r byd yn eich casáu chwi, chwi a wyddoch gasáu ohono fyfi o’ch blaen chwi. 19 Pe byddech o’r byd, y byd a garai’r eiddo; ond oblegid nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae’r byd yn eich casáu chwi. 20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i. 22 Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 23 Yr hwn sydd yn fy nghasáu i, sydd yn casáu fy Nhad hefyd. 24 Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a’m casasant i a’m Tad hefyd. 25 Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.