Revised Common Lectionary (Complementary)
97 Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. 98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. 99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. 100 Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. 101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. 102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. 103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. 104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.NUN
16 Ond hwynt‐hwy a’n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di; 17 Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i’w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt Dduw parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt. 18 Hefyd, pan wnaethent iddynt lo toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a’th ddug di i fyny o’r Aifft, a chablasent yn ddirfawr; 19 Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i’w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na’r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi. 20 Dy ysbryd daionus hefyd a roddaist i’w dysgu hwynt, ac nid ateliaist dy fanna rhag eu genau; dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched. 21 Felly deugain mlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch, heb fod arnynt eisiau dim: eu gwisgoedd ni heneiddiasant, a’u traed ni chwyddasant. 22 A thi a roddaist iddynt freniniaethau a phobloedd, a rhennaist hwynt i gonglau. Felly hwy a feddianasant wlad Sihon, a gwlad brenin Hesbon, a gwlad Og brenin Basan. 23 Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd, ac a’u dygaist hwynt i’r wlad a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iddi i’w meddiannu. 24 Felly y meibion a aethant i mewn, ac a feddianasant y wlad, a thi a ddarostyngaist drigolion y wlad, y Canaaneaid, o’u blaen hwynt, ac a’u rhoddaist yn eu llaw hwynt, eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlad, fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys. 25 A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di. 26 Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl i’w cefn, a’th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr. 27 Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr. 28 Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o’r nefoedd a wrandewaist, ac a’u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd. 29 A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i’w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant. 30 Er hynny ti a’u hoedaist hwynt flynyddoedd lawer, ac a dystiolaethaist wrthynt trwy dy ysbryd yn dy broffwydi; ond ni wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobl y gwledydd. 31 Eto, er mwyn dy fawr drugareddau, ni lwyr ddifethaist hwynt, ac ni wrthodaist hwynt; canys Duw graslon a thrugarog ydwyt.
21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a’r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth: 22 Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi. 23 Tangnefedd i’r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 24 Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen.
At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.