Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 34:15-22

15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt. 16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear. 17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd. 19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll. 20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt. 21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir. 22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

Josua 22:10-20

10 A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

11 A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel. 12 A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel. 13 A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad, 14 A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel. 15 A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd, 16 Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd? 17 Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr Arglwydd, 18 Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel. 19 Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr Arglwydd ein Duw. 20 Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd‐beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.

Rhufeiniaid 13:11-14

11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.