Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
36 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef. 2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon. 11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn. 14 Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo. 15 Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian. 16 A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian. 17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno. 18 A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir. 19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? prŷn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd. 20 A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo. 21 Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall. 22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir. 23 Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir. 24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach. 25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo. 26 A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.
14 A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. 15 Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. 16 Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara. 17 A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? 18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? 19 Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. 20 A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. 21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.