Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr Arglwydd.
36 Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef. 2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas. 3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni. 4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni. 5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd. 7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd. 8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt. 9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni. 10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon. 11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi. 12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
45 Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr. 2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo. 3 A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef. 4 Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft. 5 Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi. 6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi. 7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared. 8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft. 9 Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda: 10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt: 11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt. 12 Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Benjamin yn gweled, mai fy ngenau i sydd yn ymadrodd wrthych. 13 Mynegwch hefyd i’m tad fy holl anrhydedd i yn yr Aifft, a’r hyn oll a welsoch; brysiwch hefyd, a dygwch fy nhad i waered yma. 14 Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau. 15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.
9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.