Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd. 12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
13 Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd. 2 Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau. 3 Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw. 4 Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll. 5 O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb. 6 Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau. 7 A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef? 8 A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw? 9 Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn? 10 Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel. 11 Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch? 12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrff o glai. 13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo. 14 Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw? 15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef. 16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef. 17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau. 18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir. 19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.
7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed. 8 (Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.) 9 Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw’r Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid. 10 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw’r hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai i ti ddwfr bywiol. 11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw? 12 Ai mwy wyt ti na’n tad Jacob, yr hwn a roddodd i ni’r pydew, ac efe ei hun a yfodd ohono, a’i feibion, a’i anifeiliaid? 13 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn: 14 Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragwyddol. 15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr. 16 Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a thyred yma. 17 Y wraig a atebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr: 18 Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir. 19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai proffwyd wyt ti. 20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerwsalem y mae’r man lle y mae yn rhaid addoli. 21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae’r awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerwsalem. 22 Chwychwi ydych yn addoli’r peth ni wyddoch: ninnau ydym yn addoli’r peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iddewon. 23 Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo’r gwir addolwyr y Tad mewn ysbryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae’r Tad yn eu ceisio i’w addoli ef. 24 Ysbryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd. 25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Meseias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth. 26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.