Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef. 10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni. 11 Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd. 12 Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni? 13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll. 14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
11 A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus? 3 Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a’th waradwyddo? 4 Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di. 5 Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn, 6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â’r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd. 7 A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? 8 Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod? 9 Mae ei fesur ef yn hwy na’r ddaear, ac yn lletach na’r môr. 10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a’i rhwystra ef? 11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny? 12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt. 13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef; 14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: 15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni: 16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef. 17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd. 18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch. 19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a’th ddychryno, a llawer a ymbiliant â’th wyneb. 20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a’u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.
8 Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.
9 Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan: 10 Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. 11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw. 12 A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa; 13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith: 14 Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni. 15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.