Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.
81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. 2 Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. 3 Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. 4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. 5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. 6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. 7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. 8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; 9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
31 Yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel. 3 Er ys talm yr ymddangosodd yr Arglwydd i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd. 4 Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns. 5 Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gyffredin. 6 Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw.
35 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser. 36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu. 37 Yr hyn oll y mae’r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw ataf fi: a’r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim. 38 Canys myfi a ddisgynnais o’r nef, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd. 39 A hyn yw ewyllys y Tad a’m hanfonodd i; o’r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim ohono, eithr bod i mi ei atgyfodi ef yn y dydd diwethaf. 40 A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i; cael o bob un a’r sydd yn gweled y Mab, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: a myfi a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.