Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 81

I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff.

81 Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob. Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl. Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl. Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob. Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn. Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau. Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf; Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr. 10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf. 11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai. 12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain. 13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd! 14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr. 15 Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd. 16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.

1 Brenhinoedd 17:1-16

17 Ac Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i. A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dos oddi yma, a thro tua’r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. Ac o’r afon yr yfi; a mi a berais i’r cigfrain dy borthi di yno. Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen. A’r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o’r afon. Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.

A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno. 10 Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf. 11 Ac a hi yn myned i’w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law. 12 A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i’m mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw. 13 Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i’th fab ar ôl hynny. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a’r olew o’r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear. 15 A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a’i thylwyth, ysbaid blwyddyn. 16 Ni ddarfu y celwrn blawd, a’r ystên olew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

Effesiaid 5:1-14

Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod. Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.