Revised Common Lectionary (Complementary)
4 Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau. 5 Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. 6 Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. 7 Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd. 8 Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. 2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. 3 Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. 4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. 5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. 6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. 7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. 8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
5 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; 2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.
35 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
41 Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. 42 A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? 43 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. 44 Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf. 45 Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. 46 Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. 48 Myfi yw bara’r bywyd. 49 Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50 Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. 51 Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.