Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
34 Bendithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad. 2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant. 3 Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi; a chyd‐ddyrchafwn ei enw ef. 4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn. 5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd. 6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau. 7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt. 8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
2 Yna dyddiau Dafydd a nesasant i farw; ac efe a orchmynnodd i Solomon ei fab, gan ddywedyd, 2 Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; 3 A chadw gadwraeth yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: 4 Fel y cyflawno yr Arglwydd ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â’u holl galon, ac â’u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel. 5 Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a’r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed. 6 Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na ad i’w benllwydni ef ddisgyn i’r bedd mewn heddwch. 7 Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di. 8 Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a’m melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i’r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i’r Arglwydd wrtho ef, gan ddywedyd, Ni’th laddaf â’r cleddyf. 9 Ond yn awr na ad di ef heb gosbedigaeth: canys gŵr doeth ydwyt ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dwg dithau ei benwynni ef i waered i’r bedd mewn gwaed.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.