Revised Common Lectionary (Complementary)
2 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. 3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt.
9 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. 10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl.
11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. 14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. 15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta.
23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
4 Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i’r alwedigaeth y’ch galwyd iddi, 2 Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; 3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd. 4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y’ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth; 5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, 6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll. 7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist. 8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. 9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? 10 Yr hwn a ddisgynnodd, yw’r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) 11 Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon; 12 I berffeithio’r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist: 13 Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist: 14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo: 15 Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw’r pen, sef Crist: 16 O’r hwn y mae’r holl gorff wedi ei gydymgynnull a’i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i’w adeiladu ei hun mewn cariad.
24 Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Iesu yno, na’i ddisgyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Gapernaum, dan geisio yr Iesu. 25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. 27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad. 28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31 Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. 32 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. 33 Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. 35 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.